Rydym yn hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon dŵr ar gyfer pob oedran. Ein nod yw i chi gael hwyl, a dysgu sgiliau newydd mewn chwaraeon padlo, sy’n cynnwys:
- Canŵ
- Slalom
- Caiacio
- Caiac môr
- Caiac Sbrint
Mae’r clwb yn darparu’r holl offer sydd ei angen i ddechrau. Mae gan ein tîm talentog o hyfforddwyr ystod eang o sgiliau, a chyda’u hanogaeth a’u cefnogaeth, byddwch chi’n dod yn badlwr hyderus yn fuan.

Ein hamserlen wythnosol yw:
Hyfforddiant Caiacio Sbrint – Dydd Sadwrn 9.30
Oedolion – Monday at 18.00
Slalom – Dydd Mercher am 18.00
Ieuenctid – Dydd Iau am 18.00
Rydym yn cynnig hyfforddiant ar sawl lefel, wedi’i strwythuro yn unol â gofynion system Gwobrwyo Star Undeb Canŵio Prydain.
Mae’r hyfforddiant yn llwyddiannus iawn gyda’r mwyafrif o aelodau’n cyflawni’r Wobr Dwy Seren. Y tu hwnt i hynny, mae gweithgareddau’r clwb yn cael eu llywio gan ddymuniadau’r aelodau. Rydym am wrando ac ymateb i uchelgeisiau pob aelod unigol.